Gwobr Gwirfoddolwyr Archifau ARA 2024

Bydd gwobr 2024 yn gyfle i ddiolch i'n gwirfoddolwyr am eu holl gefnogaeth barhaus a gwaith yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Rydym yn croesawu prosiectau sy'n dangos sut mae archifau wedi cefnogi gwirfoddolwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac sydd wedi addasu prosiectau i weddu i'w hamgylchiadau boed o bell neu mewn ffyrdd newydd o weithio gyda'n gilydd ar wahân.

Bydd gan yr enillwyr llwyfan cenedlaethol i ddathlu cyfraniad eu gwirfoddolwyr at y gwasanaeth, a chael cyhoeddusrwydd am eu rôl yn cefnogi unigolion a'r gymuned trwy raglenni gwirfoddoli.

Enillwyr Gwobr 2023 oedd Digital Dig, prosiect gan Royal Horticultural Society

Mae’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion yn ceisio dathlu rôl gwirfoddolwyr wrth gefnogi gwasanaethau archifau, ac i gasglu astudiaethau achos arfer da i hysbysu'r sector ehangach. Mae'r wobr hon yn elfen allweddol o’r Cynllun Gweithredu ARA ‘Gwirfoddoli mewn Archifau’, gan adlewyrchu ar argymhellion yr adroddiad a gyhoeddwyd gan ARA yn ddiweddar; Gwirfoddoli mewn Archifau  Cefnogir y wobr gan Yr Archifau Cenedlaethol, isadran Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, a Chyngor Archifau’r Alban.

Mae'r wobr hon yn agored i archifau ar draws y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Bydd Gwobrau yn cael cyhoeddusrwydd eang a thu hwnt i'r sector.

Mae ffurflen enwebu fyr ar gael yma.  Mae'r ffurflen enwebu yn cynnwys canllawiau. Gall sefydliadau enwebu prosiectau, neu raglenni gwirfoddoli parhaus, a digwyddodd yn ystod y 12 mis hyd at y dyddiad enwebu.

Mae angen dychwelyd ffurflenni enwebu wedi'u llenwi i volunteeringaward@archives.org.uk erbyn 30ain Mawrth 2024. Cyhoeddir yr enillydd yn ystod wythnos Gwirfoddolwyr 1-7 Mehefin.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y wobr, cysylltwch â Deborah Mason, (01823 327077 neu volunteeringaward@archives.org.uk )

The above information is available in English here, where you can also find case studies and awards announcements which may help you to understand the types of projects that have achieved awards in the past and inform how you craft your nomination for this year’s award.